Llanddewi Brefi

Helo!

Wyt ti eisiau :-

Cwrdd â ffrindiau newydd?

Cael hwyl yn gwneud gwahanol weithgareddau fel, chwarae golff, weiro plwg, sosial a chael cyfle i fynd ar amryw o dripiau gwahanol?

Cymryd rhan mewn pob mathau o gystadlaethau fel chwaraeon, eisteddfod, barnu stoc, siarad cyhoeddus a’r Rali?

Joio bob Nos Iau?

Wel os wyt ti, ymuna â Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi yn Neuadd Llanddewi- Brefi bob Nos Iau.

Gobeithio byddi di a dy ffrindiau yn gallu ymuno â ni ac os wyt eisiau gofyn cwestiwn paid bod ofn cysylltu â ni.

Dyma ein rhaglen am y flwyddyn – lawrlwythwch fel PDF.