Hyfforddiant

Mae C.Ff.I. yn cynnig rhaglen o hyfforddiant ar gyfer yr aelodau megis Hyfforddiant ar sut i feirniadu Stoc (Ŵyn, Bîff, Gwartheg Godro, Moch a Charcas), Hyfforddiant Sgriptio,  Hyfforddiant Technegol gyda Theatr Felinfach, Cymorth Cyntaf, Cwrs ATV a Chwrs ar gyfer Swyddogion newydd y Clybiau. Mae'r mudiad hefyd yn cynnig Achrediad OCN ar gyfer gweithgareddau a hyfforddiant mae'r mudiad yn darparu. Mae'r C.Ff.I. yn trefnu rhaglen o hyfforddiant mae'r aelodau eisiau gwneud yn ystod y flwyddyn. Mae’r mudiad yn cynhyrchu amrywiaeth o fideos o’r hyfforddiant rydym yn ei gynnig. Gweler y fideos isod.