Mae’r Rhaglen Ryngwladol yn rhan bwysig o waith y mudiad. Bwriad y rhaglen yw annog dealltwriaeth yr aelodau o ddiwylliannau eraill a rhoi’r cyfle iddynt i deithio, i gael profi profiadau newydd ac i ennill hyder. Mae’r rhaglen hefyd yn gofyn i glybiau a’u haelodau i westeio aelodau o fudiadau rhyngwladol tebyg dros fisoedd yr haf. Mae’r profiad o deithio gyda’r C.Ff.I. yn hollol unigryw, bydd aelodau yn dod i adnabod ac yn rhannu profiadau gydag aelodau o fudiadau tebyg ar draws y byd gan wneud ffrindiau newydd am oes.
Allwch deithio i nifer fawr o wledydd megis Canada, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a’r Ffindir. Mae diwrnod ‘brieffio’ teithiau tramor yn cael ei gynnal yng nghanolfan CFFI Cymru ar faes y Sioe yn Llanelwedd.
Dysgwch am ddiwylliannau, darganfyddwch brofiadau newydd, gwellwch eich hyder a gwnewch ffrindiau am oes!
Beth sy’n dy ddal di’n nol? Gwna gais heddiw!