Rhodd Etifeddol

Mae C.Ff.I. Ceredigion yn dibynnu ar roddion elusennol i barhau gyda’n gwaith. Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn sicrhau eich bod yn gallu helpu ni wrth barhau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ieuenctid cefn gwlad, hyd yn oed ar ôl eich amser chi.

Os ydych wedi gwneud ewyllys yn barod ac eisiau cynnwys rhodd i C.Ff.I. Ceredigion, efallai na fydd angen ei ail-ysgrifennu. Gallwch ofyn i unigolyn proffesiynol, fel cyfreithiwr, i ychwanegu cywiriad. Mae llunio neu cywiro ewyllys yn codi nifer o gwestiynau pwysig. Rydym yn deall fydd angen i chi feddwl am rhain yn eich amser eich hun, ar termau eich hun gyda’ch teulu ac anwyliaid mewn golwg.

Beth bynnag yw gwerth eich rhodd, fe fydd o gymorth mawr i C.Ff.I. Ceredigion er mwyn i ni barhau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.