Cynigion Arbennig

Mae C.Ff.I. Ceredigion yn cydweithio â busnesau a siopau lleol o amgylch y Sir er mwyn cynnig gostyngiadau arbennig i'r aelodau gan gynnwys aelodau cyswllt.

Dyna'i gyd sydd yn rhaid i chi wneud fel aelod yw dangos eich cerdyn aelodaeth pan fyddwch yn ymweld ag un o'r busnesau/siopau ac fe gewch ostyngiad arbennig!

Yn ogystal a’r cynigion arbennig sydd gan y Sir i’w gynnig, mae hefyd nifer enfawr o gynigion ar gael i aelodau’r mudiad trwy wefan NFYFC. Dilynwch y linc isod i weld y cynigion arbennig sydd ar gael. Os am fwy o wybodaeth ar sut mae hawlio cynigion NFYFC cysylltwch â’r swyddfa.