Shwmai!
Clwb ifanc o rhan oedran ein aelodau yw clwb Dihewyd ond mae’r Clwb ei hun bellach dros ei 60 oed gan i’r clwb cael ei sefydlu yn 1950. Yng nghlwb Dihewyd ni’n joio mas draw yn ogystal â chael cyfle i gystadlu ar lefel Sir a Chymru er ein bod yn glwb bach o ran niferoedd. Nod yw clwb yw joio, dysgu a chael y cyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau hen a newydd.
Cymrwch pip bach ar ein rhaglen i chi cael blas ar ein gweithgareddau wythnosol. Ni’n cwrdd bob nos Lun am 8:00 yn Neuadd Pentref Dihewyd.
Dyma ein rhaglen am y flwyddyn –