Pen-blwydd hapus i ni!
Pwy fyddai’n meddwl bod 18 mlynedd wedi mynd heibio ers i Dan a Sara Downes beicio o amgylch Llangeitho â’r pentrefi cyfagos i ennyn cefnogaeth i ail-sefydlu C.Ff.I. Llangeitho. Mae’r amser wedi hedfan, ac rydym wedi mwynhau bob eiliad.
Fel criw bach hapus ‘rydym wedi profi cystadlu ar lefel Sirol, Cymru a Chenedlaethol, ar lwyfan, mewn mart a sied, ac ‘rydym wedi derbyn ambell anrhydedd. Ond yn bwysicach i mi yw croesawi aelodau hen a newydd i Neuadd Jiwbilî ar nos Lun a gweld pawb yn joio mas draw yng nghwmni ei gilydd – dewch i ymuno yn yr hwyl!