Trisant

Clwb Ffermwyr Ifanc Trisant ydym ni.

Rydym ni’n cwrdd bob nos Lun yn ysgol Mynach am 8 o’r gloch, oni bai am pan fyddwn yn mynd ar ymweliadau i lefydd diddorol.

Rydym yn cael llawer iawn o hwyl yn y clwb, ac ry’n ni’n griw agos iawn.

Mae rhaglen gyffrous wedi’i threfnu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod – rhywbeth at ddant pawb gobeithio!

Byddwn yn cynnal sosial fach, nosweithiau chwaraeon, nosweithiau barnu stoc, ymweliadau a sgyrsiau gyda rhai sydd wedi bod ar deithiau tramor.

Bydd cyfle hefyd i bawb gystadlu yng nghystadlaethau’r Sir gan gynnwys yr Eisteddfod, yr Hanner Awr o Adloniant a’r Rali.

 

Yn y bryniau, fyny fry

wrth eu bodd yn cymdeithasu

mae na griw sy’n llawn o sbri,

barnu stoc, a bach o ganu:

Felly bobl, beth amdani?

 

Dilyna ni ar Twitter: @cffitrisant

Bydd yn ‘ffrind’ ar Facebook

Gwylia ein fideos ni ar YouTube: CFfI Trisant

A chymer olwg ar ein rhaglen am y flwyddyn: lawrlwythwch fel PDF.