Llanddeiniol

Llanddeiniol

Croeso i dudalen C.Ff.I. Llanddeiniol! Rydym ni’n griw brwdfrydig ac ifanc sy’n cwrdd ar Nos Lun yn wythnosol am 8yh yn Ysgoldy’r Eglwys, Llanddeiniol. Mae’n rhaglen blynyddol yn llawn gweithgareddau megis nosweithiau datblygu sgiliau e.e. coginio, crefftau gwahanol a dawnsio, i ymweliadau i wib-gartio, cael tro ar wal ddringo, ymweld â ffatri hufen iâ a llawer mwy! Ymunwch â ni am gyfle gwych i gymdeithasu a chwrdd â ffrindiau newydd ynghyd â joio gweithgareddau llawn sbort a sbri!

Gwefan – www.cffi-llanddeiniol.org.uk

Dyma ein rhaglen am y flwyddyn – lawrlwythwch fel PDF.