Felinfach

Mae gan C.Ff.I. Felinfach rhywbeth i bawb.

Ffrindiau – cei gyfle i wneud ffrindiau newydd.

Enjoio – nodwedd pwysicaf ein clwb – rhaid joio!

Llwyfan – trwy’r clwb cei di gyfle i gystadlu.

Iaith – byddi di’n cymdeithasu’n naturiol yn ein mamiaith.

Nerth – yn dy hunan ac yn y gymuned i fagu hyder.

Ffermio – cei ddysgu ychydig am fyd amaeth os dyna yw dy ddymuniad.

Allwedd – gall y mudiad agor drysau i ti.

CHwerthin – cei gyfle i fwynhau ac i ymlacio.

Rydym yn cwrdd bob Nos Lun am 7.30 yn y Gwndwn ar gampws Theatr Felinfach.

Dyma ein rhaglen am y flwyddyn – lawrlwythwch fel PDF.

Dyma linc i dudalen facebook y Clwb;

https://www.facebook.com/groups/353082094773483/

https://www.facebook.com/pages/Ffrindiau-CFFI-Felinfach-YFC-Friends/538501976277656?ref=bookmarks