Rali
Rali Blynyddol yw uchafbwynt y flwyddyn i aelodau, arweinyddion a ffrindiau’r mudiad. Dyma diwrnod ble mae pob clwb yn cystadlu yng nghystadlaethau megis Barnu Stoc, Dawnsio, Cneifio, Canu, Coginio, Gosod Blodau, Crefft a Choedwigaeth. Hefyd dyma ddiwrnod lle gwelir Brenhines newydd y Sir yn cael ei choroni gyda’i Dirprwyon ac hefyd y Ffermwr Ifanc. Y clwb buddugol sy’n cynnal y Rali a chynhelir ar ddydd Sadwrn cyntaf ym mis Mehefin.
Cystadlaethau Gorfodol
1. Cystadleuaeth yr Aelodau.
2. Arddangosfa’r Ffederasiwn NEU Sioe Ffasiwn
3. Barnu Gwartheg Duon, Barnu Defaid Suffolk neu Barnu Ceffylau Adran A.
4. Arddangosfa’r Prif Gylch neu Tablo
Gall aelod gymryd rhan mewn unrhyw ddwy gystadleuaeth ac Arddangosfa’r Prif Gylch neu Tablo.
Ni chaniateir i glwb gystadlu mewn mwy nag wyth cystadleuaeth, ond caniateir i glybiau gystadlu mewn llai.