Cefndir C.Ff.I. Ceredigion
Sefydlwyd C.Ff.I. Ceredigion ym mis Hydref 1941. Mae’n fudiad unigryw gan ei fod yn hollol ddemocrataidd. Mae’r Ffederasiwn yn cynnal rhaglen o weithgareddau ar ran aelodau’r mudiad yn y sir. Mae 19 o glybiau ar draws y sir â dros 700 o aelodau, o Benparc yn y de i Dalybont yn y gogledd.