Cynhelir tri ddigwyddiad gan y Sir yn ystod yr hydref sef Diwrnod Allan Ar y Fferm, Diwrnod Maes ac yr Eisteddfod. Rydym yn chwilio am gwmni i dendro ar gyfer fan fwyd i werthu Sglodion, Byrgyrs ayyb.
Os hoffech chi dendro unrhyw un o’r digwyddiadau yma, byddem yn gwerthfawrogi petaech yn danfon rhestr o brisiau yr holl fwyd a diod y byddwch yn bwriadu gwerthu ar y diwrnod gan gynnwys eich tendr a thystysgrifau glendid bwyd.
Nid o reidrwydd y tendr uchaf fydd yn llwyddiannus, mi fydd C.Ff.I. yn ystyried prisiau ar gyfer y cwsmeriaid, cyflwyniad ayyb.
Mae manylion llawn y tendrau i’w gweld isod ond mae croeso i chi gysylltu â mi ar 01570 471444 am wybodaeth pellach.
Llythyr Tendr bwyd Diwrnod Maes 18
Llythyr Tendr fan fwyd Diwrnod Allan ar y Fferm 18
Llythyr Tendr bwyd Eisteddfod 18