Bu’r Sul diwethaf, y 22ain o Ionawr yn lwyddiant mawr pryd y cynhaliwyd cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I. Ceredigion yng Nghampws Theatr Felinfach. Cafwyd diwrnod hwylus gydag aelodau o 12 o glybiau’r Sir yn dangos eu doniau wrth gystadlu, gyda’r beirniaid i gyd yn canmol y safon.
Y clwb a enillodd y nifer mwyaf o bwyntiau dros y pedair adran, ac yn ennill tarian Brynhogfaen gyda 77 o farciau oedd clwb Llanwenog, gyda Lledrod yn ail gyda 73 marc ac yn ennill Cwpan Coffa Eric Davies, Prengwyn.
Yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14 oed ac iau cafwyd 12 o dimoedd yn cystadlu ac yn beirniadu oedd Mr Edryd Eynon a dyma’r canlyniadau:-
Cadeirydd – 1af Siôn Wyn Evans, Felinfach; 2il Beca Jenkins, Pontsian; 3ydd Gwen Down, Talybont A
Darllenydd – 1af Sioned Fflur Davies, Llanwenog B; 2il Gwen Down, Talybont A; Cydradd 3ydd Glesni Morris, Llangwyryfon; Beca Jenkins, Pontsian a Siôn Wyn Evans, Felinfach.
Tîm – 1af Pontsian; 2il Llanwenog B; 3ydd Lledrod.
Bu 13 o dimau o flaen y beirniad Mr Iwan Meirion yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau ac ar ddiwedd y gystadleuaeth yma, cafwyd y canlyniadau canlynol:-
Cadeirydd – 1af Ffion Evans, Llanwenog A; 2il Wiliam Jenkins, Lledrod; cydradd 3ydd Marged Ioan, Caerwedros C a Gethin Jenkins, Mydroilyn B.
Siaradwr – 1af Twm Ebbsworth, Llanwenog B; 2il Glesni Morgan, Talybont; 3ydd Beca Jenkins, Pontsian.
Diolchydd – 1af Ffion Williams, Lledrod; 2il Hanna Davies, Llanwenog B; Cydradd 3ydd Eleri Griffiths, Talybont a Briallt Williams, Llanwenog B.
Tîm – Cydradd 1af Llanwenog A a Llanwenog B; 3ydd Lledrod.
Bu 8 tîm yn cystadlu yn y gystadleuaeth Seiat Holi 21 oed neu iau a Miss Elin Jones A.C. oedd yn cloriannu. Dyma’r canlyniadau:-
Cadeirydd – 1af Nest Jenkins, Lledrod; 2il Carwyn Davies, Llanwenog A; 3ydd Carys Jones, Bro’r Dderi.
Siaradwr – 1af Meleri Morgan, Llangeitho; Cydradd 2il Rhys Davies, Llanwenog B a Sioned Davies, Llanwenog A.
Tîm – 1af Llanwenog A; Cydradd 2il Lledrod a Llangeitho.
Yn y gystadleuaeth 26 oed neu iau – Dadl – bu 8 o dimau yn cystadlu gyda Mrs Wendy Phillips yn barnu a dyma’r canlyniadau:-
Cadeirydd – 1af Elen Lloyd-Jones, Pontsian A; 2il Meleri Morgan, Llangeitho; 3ydd John Jenkins, Lledrod.
Siaradwr – 1af Cennydd Jones, Pontsian B; 2il Endaf Griffiths, Pontsian B; cydradd 3ydd Dafydd Morgan, Pontsian A ac Elin Jones, Llanwenog A.
Tîm – 1af Llangeitho; 2il Pontsian B; 3ydd Pontsian A.
Cynhaliwyd dau gystadleuaeth ychwanegol yn ystod y diwrnod sef Ymgeisio am Swydd – a beirniadwyd y gystadleuaeth hon gan Iona Jones a Lisa Jones – 1af Eiry Williams, Llangwyryfon; 2il Elliw Davies, Caerwedros; 3ydd Sara Patterson, Caerwedros.
Mr Aled Johnson oedd beirniad y gystadleuaeth Seiat Sillafu a dyma’r canlyniadau:-
1af Alwen Morris, Llangwyryfon; 2il Briallt Williams, Llanwenog; 3ydd Heledd Evans, Caerwedros
Diolch yn fawr i Siop Inc Aberystwyth am noddi’r gystadleuaeth.
Diolch hefyd i gwmni Deli Tŷ Croeso am baratoi’r lluniaeth ar y dydd.
Bydd yr aelodau llwyddiannus yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli C.Ff.I. Ceredigion yng nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymru a fydd yn cymryd lle yn Llanelwedd ar Ebrill yr 1af, 2017. Pob hwyl i chi gyd.