Yn ystod wythnos hanner tymor mis Chwefror, cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I Ceredigion yn Neuadd Goffa Felinfach. Cafwyd diwrnodau hwylus gydag aelodau o 11 o glybiau’r Sir yn dangos eu doniau wrth gystadlu, gyda chanmoliaeth uchel am y safon wrth y beirniaid.
Y clwb enillodd y nifer mwyaf o bwyntiau dros y bedair adran, ac yn ennill tarian Brynhogfaen gyda 78 o farciau oedd clwb Pontsian, gyda chlwb Llanwenog yn ail â 70 o farciau a Thregaron yn drydydd gyda 36 o farciau.
Yng nghystadleuaeth y darllen 14 mlwydd oed neu iau, bu 12 tîm yn cystadlu. Y beirniad oedd Miss Nia Medi Jones, Llanfair Clydogau, a dyma’r canlyniadau:
Cadeirydd: 1af – Lois Jones, Talybont A
2il – Alwena Owen, Pontsian
3ydd – Elin Williams, Tregaron A
Darllenydd: 1af – Lois Jones, Talybont A
2il – Ioan Mabbutt, Talybont A
3ydd – Elan Mabbutt, Talybont A
Tîm: 1af – Talybont A
2il – Pontsian
3ydd – Talybont B
Bu 12 tîm o flaen y beirniad, Y Parchedig Hybarch Eileen Davies, Llanllwni, yn yr adran 16 oed neu iau. Dyma’r canlyniadau:
Cadeirydd: 1af – Megan Dafydd, Llangeitho
2il – Sion Wyn Evans, Felinfach
= 3ydd – Fflur McConnell, Mydroilyn A
Medi Jenkins, Mydroilyn B
Lisa Jenkins, Pontsian A
Siaradwr: 1af – Rhiannon Jones, Tregaron
2il – Daniel Evans, Pontsian A
3ydd – Rhodri Jenkins, Mydroilyn B
Diolchydd: 1af – Betrys Llwyd Dafydd, Bro’r Dderi Cymysg
2il – Swyn Dafydd, Caerwedros A
= 3ydd – Alwena Owen, Pontsian A
Rebecca Rees, Pontsian B
Tîm: 1af – Pontsian A
2il – Tregaron
3ydd – Mydroilyn B
Bu 2 dîm yn cystadlu o flaen y beirniad Mrs Sara Jenkins, Talybont, yn y gystadleuaeth dadl 21 oed neu iau. Dyma’r canlyniadau:
Cadeirydd: 1af – Hafwen Davies, Llanwenog
2il – Rebecca Rees, Pontsian
Siaradwr: 1af – Lleucu Rees, Llanwenog
= 2il – Beca Jenkins, Pontsian
Lisa Jenkins, Pontsian
Tîm: 1af – Llanwenog
2il – Pontsian
Beirniad yr adran 28 oed neu Iau oedd Mr Dai Baker, Penybont, lle bu 4 tîm yn cystadlu yn y ‘Siarad ar ôl Cinio’. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, clorianwyd y canlynol:
Cadeirydd: 1af – Endaf Griffiths, Pontsian A
2il – Beca Jenkins, Pontsian B
3ydd – Aron Dafydd, Bro’r Dderi Cymysg
Siaradwr: 1af – Cennydd Jones, Pontsian A
2il – Megan Lewis, Trisant Cymysg
3ydd – Elliw Dafydd, Bro’r Dderi Cymysg
Tîm: 1af – Pontsian A
2il – Cymysg (Bro’r Dderi a Thrisant)
3ydd – Pontsian B
Diolch i bwyllgor Neuadd Goffa Felinfach am ganiatau i CFFI Ceredigion gynnal y gystadleuaeth yno. Diolch hefyd i’r beirniaid, ac i’r swyddogion fu’n stiwardio ac arwain y gystadleuaeth.
Bydd yr aelodau buddugol yn mynd ymlaen i gynrychioli CFFI Ceredigion yng Nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymru yn Llanelwedd ar y 27ain o Fawrth 2022. Pob hwyl i chi gyd.