Sialens Treiathlon 2019

Yr Her: Cerdded/Rhedeg, Rhwyfo a Seiclo cyfanswm o 37 cilometr (23 milltir) a chodi arian i elusen, y Sir ac eich clwb Ffermwyr Ifanc lleol. Byddwn yn gwahanu’n 2 grŵp.

Y dyddiad: Dydd Sadwrn y 6ed o Ebrill, 2019.

Manylion: Bydd pob cymal (stage) yn dechrau ac yn gorffen yn Neuadd Llanddewi Brefi. Os ydych chi am wneud y 3 cymal – grêt! Ond os ydych chi am wneud ‘mond un cymal o’r daith rydym yr un mor awyddus i chi ymuno â ni. Gweler isod amserlen fras sy’n nodi pryd mae pob cymal yn dechrau a gorffen. Mae yna groeso i aelodau, rhieni a ffrindiau’r Sir i gymryd rhan. Yn ogystal, bydd angen i ni dderbyn caniatâd rhieni ar gyfer aelodau dan 18 oed sydd eisiau ymuno â’r daith a bydd angen un oedolyn cyfrifol penodedig ar gyfer aelodau dan 18, gyda dim mwy na 3 aelod i un oedolyn. Noder nid yw C.Ff.I. Ceredigion yn gyfrifol am unrhyw unigolyn nad yw’n aelod o un o Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion gan nad yw yswiriant y Sir yn eich cynnwys. Cofiwch mai nod y daith yw codi arian, felly ewch ati i gasglu nawdd wrth eich ffrindiau oll.

Er mwyn cymryd rhan, rhaid cofrestru gyda’r swyddfa.
Lawrlwythwch y pecyn cofrestru isod ac yna dychwelyd y ffurflen cofrestru gyda thâl cofrestru o £10 erbyn dydd Gwener, 22ain o Fawrth.

Pecyn Treiathlon