Trefnodd Ffermwyr Ifanc Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro ddigwyddiad iechyd meddwl yn ddiweddar
“Mae siarad yn bwysig ac mae yna help i’w gael” – dyna oedd prif neges digwyddiad iechyd meddwl a gynhaliwyd gan Ffermwyr Ifanc o dair sir y gorllewin ar ddiwedd mis Ionawr.
Cafodd y Noson Iechyd Meddwl ei chynnal yng Ngwesty’r Emlyn, Castellnewydd Emlyn ar Ionawr 31, a dyma oedd y tro cyntaf i Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro gydweithio ar gyfer achos o’r fath.
Daeth tyrfa dda o tua 150 o bobol ynghyd er mwyn gwrando ar banel o siaradwyr a oedd yn cynnwys y cyflwynydd teledu, ffermwr ac actor, Alun Elidyr; yr Hybarch Eileen Davies o Tir Dewi; ac Emma Picton-Jones o’r DPJ Foundation. Cadeiriwyd y cyfan gan y cyflwynydd teledu a’r ffarmwraig, Meinir Howells.
Cafwyd ocsiwn ar y noson hefyd, ac ymhlith yr eitemau ar werth oedd pêl rygbi wedi’i harwyddo gan aelodau o garfan Cymru a chomisiwn am englyn gan y Prifardd Idris Reynolds. Llwyddwyd i godi swm o dros £2,400, a fydd yn cael ei rannu rhwng Tir Dewi a’r DPJ Foundation.
“Dim ond y dechrau yw hyn”
“Fel mudiad sydd wedi’i wreiddio yng nghefn gwlad, mae gan y Ffermwyr Ifanc y potensial i wneud cymaint o wahaniaeth yn ein cymunedau gwledig,” meddai Endaf Griffiths, Ffermwr Ifanc y Flwyddyn CFfI Ceredigion ac un o drefnwyr y digwyddiad.
“Dyna a geisiwyd ei wneud ar y noson ei hun, gan godi ymwybyddiaeth o bwnc sydd â stigma yn ei gylch yn ogystal â chodi arian ar gyfer dwy elusen yn y gorllewin sy’n cynnig cymorth i’r rhai sy’n dioddef.
“Roedd hi’n noson lwyddiannus, ond dim ond y dechrau yw hyn. Mae yna lawer i’w wneud eto a’r nod, yn awr, yw lledaenu neges hollbwysig y noson ledled cefn gwlad a thu hwnt.”
Os ydych yn dioddef neu’n nabod rhywun sy’n dioddef, mae modd cysylltu â Tir Dewi drwy e-bost ar mail@tirdewi.co.uk neu ar y ffôn 0800 121 47 22. Rhif cyswllt y DPJ Foundation yw 0800 587 4262.