Cynhaliwyd cystadleuaeth Pantomeim C.Ff.I. Ceredigion yn Theatr Felinfach dros wyliau’r hanner tymor, gyda 14 o glybiau’r sir yn cystadlu. Cafwyd cefnogaeth gref gan y clybiau a hefyd ffrindiau’r Mudiad, gan sicrhau bod y theatr dan ei sang bob nos. Rydym yn lwcus iawn bod cyfleusterau fel Theatr Felinfach ar gael i ni ei ddefnyddio a diolchwn i’r holl staff am eu cydweithrediad parod bob amser. Diolch yn fawr i brif noddwr y gystadleuaeth Ceredigion NFU Trust Fund ac am eu presenoldeb gydol yr wythnos.
Y clybiau a gymerodd ran oedd Bro’r Dderi, Felinfach, Llanddewi Brefi, Llangwyryfon, Llanwenog, Lledrod, Mydroilyn, Penparc, Pontsian, Talybont, Tregaron, Trisant a Throedyraur gyda dros 400 o aelodau’r Sir yn cael y profiad o berfformio ar lwyfan. Y beirniad swyddogol eleni oedd Dafydd Hywel o Dyffryn Aman. Ar ddiwedd y noson, dyfarnwyd Pontsian yn gyntaf gyda 95 o farciau; Talybont yn ail gyda 90 o farciau; Caerwedros yn drydydd gyda 88; yn bedwerydd gyda 85 oedd Trisant; Mydroilyn yn bumed gyda 78 a Phenparc, Felinfach a Llanddewi Brefi yn gydradd chweched gyda 76 o farciau.
Yn ogystal â Pontsian yn ennill tarian coffa D.J.Morgan am ennill y gystadleuaeth, cyflwynwyd nifer o wobrau eraill ar ddiwedd y noson olaf. Actor gorau 16 oed neu iau, ac yn ennill tarian Mr a Mrs Alwyn Evans, oedd Daniel Owen a Jac Hockenhull, Llanddewi Brefi; 3ydd Daniel Evans, Bro’r Dderi. Actores orau 16 oed neu iau, ac yn ennill Cwpan Teulu Pantyrodyn, oedd Elain Davies, Caerwedros; 2il Elin Rattray, Trisant; 3ydd Lowri Davies, Caerwedros. Yr actor gorau, ac yn ennill Cwpan Coffa Janet Davies, Llanilar oedd Endaf Griffiths, Pontsian; 2il Richard John Jenkins, Talybont; 3ydd Cennydd Jones, Pontsian. Actores orau, ac yn ennill Cwpan Coffa Mary Jane Dowling a Tudor Lewis, Gorslwyd oedd Megan Lewis, Trisant; cydradd 2il oedd Lia Jones, Mydroilyn a Lowri Williams, Trisant. Enillwyd Cwpan Coffa D.Arthur Davies am y cynhyrchydd gorau gan glwb Pontsian; 2il Talybont; 3ydd Caerwedros a Llanwenog enillodd Tarian Marie Vaughan Jones am y set orau. Aeth Cwpan Theatr Felinfach am y Perfformiad Technegol Gorau a chyflwynwyd hwn i glwb Llanwenog; 2il Troedyraur; 3ydd Felinfach a Chwpan Ifor ap Glyn o Cwmni Da am y sgript orau yn mynd i glwb Pontsian gyda Talybont yn 2il a Caerwedros yn 3ydd. Derbyniodd pob un o’r enillwyr yma darn o lechen i’w gadw o waith Sianti, Aberaeron ac rydym yn ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru am eu rhoi.
Roeddem yn ffodus iawn i gael llywyddion ar gyfer pob noson sef Rhodri Evans, Llanddewi Brefi; Meinir Jenkins, Lledrod; Lyn Jones, Penparc; Eifiona Evans, Talybont a Bethan Evans, Caerwedros- pob un ohonynt yn gyn-aelodau o’r mudiad. Diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u rhoddion hael i’r achos. Carem ddiolch hefyd i’r cwmniau canlynol am roi’r brif wobr y raffl yn ystod yr wythnos – Ffab Cymru, Llandysul; Blodau’r Bedol, Llanrhystud; Tafarn y Swan, Llanon; Cwmni CCF a Llond Plât, Aberaeron.
Cynhaliwyd cyngerdd o’r goreuon ar y nos Lun ganlynol yn y Theatr gyda Nia Evans, Caerwedros yn Llywydd ac yn ystod y gyngerdd cyhoeddwyd enillydd Aelod Hŷn ac Iau y Sir. Trosglwyddodd Gwenan Davies, Mydroilyn y gadwyn am Aelod Hŷn y Flwyddyn i Cennydd Jones o glwb Pontsian a throsglwyddodd Caryl Morris, Llanddeiniol y tlws am Aelod Iau y Flwyddyn i Alaw Mair Jones o glwb Felinfach.
Fe fydd Clwb Pontsian yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli Ceredigion yng nghystadleuaeth Pantomeim C.Ff.I. Cymru, a fydd yn cymryd lle yn Pafiliwn Rhyl, ac Alaw a Cennydd yn cynrychioli Ceredigion yn y gystadleuaeth Aelod Iau ac Aelod Hŷn y Flwyddyn. Dymuniadau gorau i chwi oll a phob lwc ar lefel Cymru.