Pontsian yn cipio’r cyfan!

Pontsian yn cipio’r cyfan!

Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar ddwy noson – nos Iau, y 31ain o Hydref a dydd Sadwrn, yr 2il o Dachwedd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Mae’r Eisteddfod yn un o brif atyniadau y ffermwyr ifanc yn eu calendar llawn o weithgareddau.

Cloriannwyd y cystadlaethau gan y canlynol – Cerdd – Ms Jessica Robinson, Llandissilio; Llefaru – Ms Rhian Parry, Penllŷn; Adran Ysgafn – Mr Sam Jones, Tregaron; Llên – Ms Anni Llŷn, Penllŷn; Alaw Werin a Cherdd Dant – Mr Trefor Pugh, Trefenter; Celf – Miss Elonwy Evans; Ffotograffiaeth – Ms Suzanne Ryder; Cywaith Clwb – Ms Non Davies. Y cyfeilydd oedd Mrs Lona Phillips. Llywydd anrhydeddus yr Eisteddfod oedd Ms Catrin Haf Jones, C.Ff.I. Mydroilyn a chafwyd ganddi araith bwrpasol iawn a rhodd anrhydeddus i’r Mudiad. Diolch i brif noddwr yr Eisteddfod eleni sef Mr Emyr Davies – Gwesty Four Seasons; Gwesty Queensbridge; Tŷ Belgrave ac Edleston House. Diolch i gwmni Technegol Ltd a Phanto Nadolig Theatr Felinfach am noddi a diolch i Gegin Cwm Gwaun am ein bwydo trwy gydol y dydd.

Enillwyd yr Eisteddfod gan glwb Pontsian, gyda 102 o farciau, gyda chlwb Llanwenog yn ail gyda 97 o farciau a Felinfach yn drydydd gyda 79 o farciau. Esyllt Ellis Jones, Cadeirydd y Sir, oedd yng ngofal Seremoni y Gadair a’r Goron a chanwyd cân y seremoni gan Heledd Besent o glwb Mydroilyn a seiniwyd y Corn Gwlad gan John Jenkins o glwb Lledrod. Trafodwyd y feirniadaeth gan Rhian Parry ar rhan ei merch, Anni Llŷn. Am yr ail flwyddyn yn olynol, enillwyd y gadair a’r goron gan yr r’un aelod, yr enillydd tro yma oedd Twm Ebbsworth o glwb Llanwenog. Enillwyd y gadair gyda’i gerdd ar y testun ‘Llais’ a’r goron gyda’i stori fer ar y thema ‘Yfory’. Rhoddwyd y gadair gan Elen Lloyd-Jones, Brenhines y Sir ac Endaf Griffiths, Ffermwr Ifanc y Sir, o waith Dion Evans, Pontsian. Ianto Jones, Felinfach ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y gadair ac Eiry Williams, Llangwyryfon ddaeth yn drydydd. Rhoddwyd y goron gan Esyllt Ellis Jones, Cadeirydd y Sir, ac fe’i gwnaethwyd gan Lowri Pugh-Davies, Bro’r Dderi. Elen Davies, Pontsian ddaeth yn ail gyda Catrin Eilwen Davies, Talybont yn drydydd.

Dyma restr o’r rhai ac enillodd gwpanau’r Eisteddfod-
Parti Llefaru: Cwpan her Janet Morgan, Pant-Defaid – Lledrod
Parti Deusain: Cwpan Coffa her parhaol Penlanlas Isaf – Llanwenog
Meimio i Gerddoriaeth: Cwpan her Mared Rand Jones – Llanwenog
Sgets: Cwpan her parti drama Dyffryn Cletwr – Pontsian
Emyn Nofis: Cwpan Her Einir Ryder – Siôn-Rhys Evans, Caerwedros
Unawdydd gorau: Cwpan her Mr a Mrs Gwyndaf James – Heledd Besent, Mydroilyn
Llefarydd gorau: Cwpan y diweddar Mr a Mrs Elfyn Owen – Nest Jenkins, Lledrod
Côr: Cwpan Her y diweddar Arglwydd Geraint Howells – Pontsian
Marciau uchaf yn y Gwaith Cartref: Cwpan her Heather Price, Esgereinon – Pontsian
Marciau uchaf yn yr Adran Ysgafn: Tlws her Nia George – Pontsian
Marciau uchaf yn yr Adran Lwyfan: Tlws her Teulu Hatcher – Pontsian
Ail fuddugol yn yr Eisteddfod – Tlws Coffa Mr Eryl Jones, Mydroilyn – Llanwenog
Clwb Buddugol: Tlws Teulu Hafod Iwan – Pontsian
Cafwyd hefyd canlyniadau y cystadlaethau canlynol – Llyfr Lloffion – 1. Mydroilyn; 2. Llanwenog; 3. Felinfach. Llyfr Trysorydd – 1. Troedyraur; 2. Llanwenog; 3. Llanddeiniol. Llyfr Cofnodion – 1. Pontsian; 2. Llanddewi Brefi; 3. Felinfach.

Canlyniadau Nos Iau –

Unawd Alaw Werin 26 neu iau – 1. Heledd Besent, Mydroilyn; 2. Elfed Jones, Trisant; 3. Siwan George, Lledrod.
Meimio i Gerddoriaeth – 1. Llanwenog; 2. Felinfach; 3. Lledrod.
Stori a Sain – 1. Bleddyn ac Alaw, Felinfach; 2. Meinir a Twm, Llanwenog; 3. Meirian a Meleri, Llangeitho.
Parti Cerdd Dant – 1. Llanwenog; 2. Pontsian.

Canlyniadau Dydd Sadwrn –

Unawd 13 neu iau – 1. Alwena Owen, Pontsian; 2. Elin Williams, Tregaron; 3. Gruffydd Llwyd Dafydd, Bro’r Dderi.
Llefaru 13 neu iau – 1. Elin Williams, Tregaron; 2. Megan Williams, Lledrod; 3. Gruffydd Llwyd Dafydd, Bro’r Dderi.
Unawd 16 neu iau – 1. Glesni Morris, Llangwyryfon; 2. Lowri Davies, Caerwedros; 3. Cerys Silvestri-Jones, Caerwedros.
Llefaru 18 neu iau – 1. Siwan George, Lledrod; 2. Zara Evans, Tregaron; 3. Gwion Ifan, Pontsian.
Monolog– 1. Alaw Mair Jones, Felinfach; 2. Cari Davies, Tregaron; 3. Ella Evans, Felinfach.
Llefaru 26 neu iau – 1. Nest Jenkins, Lledrod; 2. Elliw Dafydd, Bro’r Dderi; 3. Lowri Jones, Lledrod.
Unawd 26 neu iau – 1. Heledd Besent, Mydroilyn; 2. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi; cydradd 3. Ianto Jones, Felinfach a Guto Lewis, Llanddeiniol.
Ymgom – 1. Llangwyryfon; 2. Llangeitho; 3. Talybont.
Canu Emyn Nofis – 1. Siôn-Rhys Evans, Caerwedros; 2. Lisa Evans, Llanwenog; 3. Endaf Griffiths, Pontsian.
Unawd Offerynnol – 1. Nest Jenkins, Lledrod; 2. Betsan Downes, Talybont; cydradd 3. Megan Biddulph a Leo Zanoni-Kincaid, Llanddewi Brefi.
Deuawd – 1. Dafydd a Tomos, Troedyraur; 2. Beca a Cadi, Talybont; cydradd 3. Elin a Nia, Llanwenog ac Ella ac Ianto, Felinfach.
Canu Emyn – 1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi; 2. Ianto Jones, Felinfach; 3. Guto Lewis, Llanddeiniol.
Ensemble Lleisiol – 1. Llanwenog; 2. Caerwedros; cydradd 3. Talybont a Pontsian.
Parti Llefaru – 1. Lledrod; 2. Bro’r Dderi; cydradd 3. Llanwenog a Pontsian.
Unawd Sioe Gerdd – 1. Heledd Besent, Mydroilyn; 2. Beca Williams, Talybont; cydradd 3. Glesni Morris, Llangwyryfon a Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi.
Sgen ti dalent – 1. Pontsian; 2. Llanddewi Brefi; cydradd 3. Felinfach a Caerwedros.
Parti Deusain – 1. Llanwenog; 2. Pontsian; 3. Talybont.
Sgets – 1. Pontsian; 2. Llanddewi Brefi; 3. Llanwenog.
Cân Gyfoes – 1. Caerwedros.
Deuawd neu Driawd Doniol – 1. Fflur, Dion a Rhys, Llangwyryfon; 2. Cerys a Jano, Caerwedros; cydradd 3. Endaf a Gwenyth, Pontsian ac Angharad a Heledd, Mydroilyn.
Côr cymysg – 1. Pontsian; 2. Felinfach; 3. Caerwedros.

Gwaith Cartref

Stori fer – 1. Twm Ebbsworth, Llanwenog; 2. Elen Davies, Pontsian; 3. Catrin Eilwen Davies, Talybont.
Cerdd – 1. Twm Ebbsworth, Llanwenog; 2. Ianto Jones, Felinfach; 3. Eiry Williams, Llangwyryfon.
Cystadleuaeth i aelodau 26 oed neu iau – 1. Megan Lewis, Trisant; 2. Eiry Williams, Llangwyryfon; 3. Gwenyth Richards, Pontsian.
Cystadleuaeth i aelodau 21 oed neu iau – 1. Daniel Evans, Bro’r Dderi; 2. Lowri Thomas, Pontsian; 3. Meinir Davies, Llanwenog.
Cystadleuaeth i aelodau 16 oed neu iau – 1. Mari Glwys, Pontsian; cydradd 2. Hanna Davies, Llanwenog a Carys Evans, Llanwenog.
Brawddeg – 1. Meinir Davies, Llanwenog; 2. Ianto Jones, Felinfach; 3. Siriol Teifi, Pontsian.
Ffotograffiaeth – 1. Siôn Wyn Evans, Felinfach 2. Emily Lloyd, Llangwyryfon; cydradd 3. Dyfrig Williams, Llangwyryfon a Rhodri Jenkins, Mydroilyn.
Limrig – 1. Endaf Griffiths, Pontsian; 2. Dion Davies, Llangwyryfon; 3. Siriol Teifi, Pontsian.
Celf – 1. Ella Evans, Felinfach; 2. Carwyn Davies, Llanwenog; cydradd 3. Cari Davies, Tregaron a Bleddyn Thomas, Felinfach.
Cywaith Clwb – 1. Pontsian; 2. Llanwenog; cydradd 3. Caerwedros, Felinfach a Llanddeiniol.
Rhaglen Clwb – 1. Llanddeiniol; 2. Pontsian; 3.Lledrod.
Hysbyseb Ceredigion – 1. Pontsian; 2. Llanwenog; 3. Trisant.

Pob lwc i bawb a fydd yn cynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod Cymru sydd yn cael ei gynnal eleni yn yr Aston Hall, Wrecsam ar y 30ain o Dachwedd.