Llwyddiant i C.Ff.I. Ceredigion yn y Ffair Aeaf

Bu aelodau C.Ff.I. Ceredigion yn cystadlu dros deuddydd yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar. Wrth gystadlu mewn cystadlaethau barnu stoc megis Carcas Ŵyn, Gwartheg Tew ac Ŵyn Tew, yn ogystal â’r cystadlaethau Addurno Torch Nadolig, Torri Cyw Iar, Trimio Oen a Chreu Calendr Adfent. Dyma’r canlyniadau:
Addurno Torch Nadolig – 3ydd Meryl Evans, Llanwenog.
Torri Cyw Iâr – 2il Lowri Jones, Lledrod.
Creu Calendr Adfent – 6ed Teleri Evans.
Trimio Oen – 10fed Rhys Williams.
Barnu Carcas Ŵyn –
Dan 16 oed – 1af Elin Rattray, Trisant
Dan 18 oed – 4ydd Ifan Davies, Llanddeiniol
Dan 21 oed – 1af Elin Davies, Llanwenog
Dan 26 oed – 1af Dyfrig Williams, Llangwyryfon
Tîm – 1af.
Barnu Gwartheg Tew –
Dan 16 oed – 2il Hanna Evans, Troedyraur
Dan 18 oed – 3ydd Ela McConochie, Felinfach
Dan 21 oed – 2il Beca Jenkins, Pontsian
Dan 26 oed – 9fed Dyfrig Williams, Llangwyryfon
Tîm – 3ydd.
Barnu Ŵyn Tew –
Dan 16 oed – 10fed Gethin Davies, Lledrod
Dan 18 oed – 6ed Angharad Evans, Llanddewi Brefi
Dan 21 oed – 11eg Dewi Davies, Llanddeiniol
Dan 26 oed – 10fed John Jenkins, Lledrod
Tîm – 10fed.
O ganlyniad sicrhawyd bod Ceredigion wedi cipio’r drydedd wobr yn yr Adran Barnu Stoc.
Llongyfarchiadau i Carwyn Lewis am ddod yn 3ydd yn yr adran Anner Gorau yn y gystadleuaeth Bȋff Ifanc. Llongyfarchiadau i Llŷr Ebenezer am ddod yn fuddugol yn yr adran Iseldir yn y gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Ŵyn. Yn y gystadleuaeth Sialens ATV, daeth Wiliam Jenkins, Lledrod a Cennydd Jones, Pontsian yn gydradd ail.
Llongyfarchiadau mawr i’r holl aelodau.