Yn y Rali, a gafodd ei drefnu gan y Trefnydd y Sir, Anne Jones a’r Swyddog Gweinyddol a Marchnata, Tomos Lewis, gwelwyd aelodau o bob cwr o’r sir yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, sydd heb os, yn ffenest siop i’r 18 o glybiau a wnaeth gystadlu.
Trwy gydol y dydd, roedd yna gystadlaethau yn dangos nifer helaeth o sgiliau – coginio, crefft, gosod blodau, coedwigaeth, cneifio, dawnsio, Arddangosfa’r Prif Gylch ayyb, ac wedi denu tua 400 o aelodau’r sir gyda Lledrod yn ennill y Rali a chlybiau Tregaron a Talybont yn gydradd 2il.
Fyny Fry oedd thema’r Rali eleni ac fe fydd yr enillwyr i gyd yn cynrychioli Ceredigion yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf.
Uchafbwynt y dydd oedd seremoni y coroni. Cafodd Elin Haf Jones o glwb Llanwenog ei choroni yn Frenhines C.Ff.I. Ceredigion am y flwyddyn. A phenodwyd Iwan Davies, Llanddewi Brefi yn Ffermwr Ifanc y flwyddyn. Am yr ail waith yn hanes C.Ff.I. Ceredigion gwelwyd dirprwyon benywaidd a gwrywaidd yn camu i’r llwyfan sef Megan Jenkins, Llanddewi Brefi; Dyfan Ellis Jones, Llangwyryfon; Lowri Pugh-Davies, Bro’r Dderi a Dyfrig Williams, Llangwyryfon.
Dyma restr o’r enillwyr:
Arddangosfa Ffederasiwn – Trisant;
Barnu Gwartheg Holstein –16 oed neu iau – Ieuan James, Troedyraur; 21 oed neu iau – Aron Dafydd, Bro’r Dderi; 26 oed neu iau – Dafydd James, Troedyraur; Tîm buddugol – Troedyraur;
Dylunio a Chreu Barcud – Caerwedros;
Coginio – Calfin Hunt ac Aeron Gwynne, Llangeitho; Gosod Blodau – Cari Davies, Tregaron; Crefft – Siwan George, Lledrod; Cystadleuaeth yr Aelodau – Tregaron;
Dawnsio – Tregaron;
Ar y Newyddion – Llangeitho;
Band Ailgylchu – Bro’r Dderi;
Coedwigaeth Hŷn – Llanddeiniol;
Coedwigaeth Iau – Llanddeiniol;
Barnu Defaid Mynydd Duon Cymreig – 16 oed neu iau – Hedd Dafydd, Llangeitho; 21 oed neu iau – Gwenno Evans, Talybont; 26 oed neu iau – Dewi Jenkins, Talybont; Unigolyn Uchaf – Hedd Dafydd, Llangeitho; Tîm – Talybont;
Trin Gwlân – Llŷr Evans, Lledrod;
Gêm yr Oesoedd – Llanddeiniol;
Gwisgo i Fyny – Trisant;
Canu – Caerwedros; Unigol – Beca Williams, Talybont; Grwp – Caerwedros
Cneifio Defaid 21 oed neu iau – Rhys Douglas, Bro’r Dderi; 26 oed neu iau – Steffan Jenkins, Llanwenog; Tîm – Tregaron.
Barnu Moch Cymreig –Unigolyn Uchaf – Llŷr Davies, Llangwyryfon; Tîm – Talybont;
Hyrwyddo Clwb – Mydroilyn;
Arddangosfa’r Prif Gylch – Talybont;
Tablo – Trisant;
Tynnu’r Gelyn – Merched – Llanddewi Brefi;
Tynnu’r Gelyn – Bechgyn – Llanddewi Brefi;
Tynnu’r Gelyn – Iau – Lledrod;
Gwneud Arwydd – Llanwenog;
Barnu Stoc – Unigolyn Uchaf 16 oed neu iau – Hedd Dafydd, Llangeitho; Unigolyn Uchaf 21 oed neu iau – Aron Dafydd, Bro’r Dderi; Unigolyn Uchaf 26 oed neu iau – Dafydd James, Troedyraur; Unigolyn Uchaf yn y Barnu Gwartheg – Dafydd James, Troedyraur; Unigolyn Gorau am y rhesymau yng Nghymraeg – Gwenno Evans, Talybont; Clwb Gorau yn y Barnu Stoc – Talybont;
Ffermwyr Gorau’r Flwyddyn – Elin Haf Jones, Llanwenog ac Iwan Davies, Llanddewi Brefi.
Anrheg Goffa W.G.Hughes & W.D. Lewis – Esyllt Ellis-Jones, Llangwyryfon a Morys Ioan, Caerwedros.
Ysgrifennydd Clwb Gorau – Angharad Evans, Mydroilyn;
Aelod a dreuliodd yr amser hiraf ar daith ryngwladol – Aled Davies, Caerwedros;
Aelod mwyaf gweithgar y flwyddyn – Angela Evans, Tregaron;
Aelod iau mwyaf gweithgar y flwyddyn – Alaw Fflur Jones, Felinfach;
Clwb gorau yng nghystadlaethau’r Sir 2017/18 – Buddugwyr – Felinfach; ail fuddugol – Llanwenog;
Y clwb “bychan” gorau yng nghystadlaethau’r Sir 2017/18 – Llanddeiniol;
Talwyd y diolchiadau gan Caryl Haf Jones, Is-gadeirydd y Sir a chyhoeddwyd y canlyniadau terfynol gan Mererid Jones, Cadeirydd y Sir.
Canlyniadau Terfynol y Rali:
1. Lledrod; 2. Tregaron a Talybont; 4. Llanddeiniol; 5. Llanddewi Brefi; 6. Llanwenog; 7. Trisant; 8. Mydroilyn; 9. Llangeitho; 10. Penparc.
I orffen y diwrnod cafwyd dawns yn Rhiwonnen lle daeth y Welsh Whisperer a Band Tom Collins i ddiddanu’r aelodau.
Cafodd y penwythnos prysur yma ei gloi gyda Chymanfa Ganu lwyddiannus yng Nghapel Tabernacl, Aberaeron ar y Nos Sul, gyda Siw Jones a Carys Lewis yn arwain ac Alwena Lloyd Williams a Bryan Jones yn cyfeilio. Artistiaid y noson oedd aelodau Clwb Felinfach, Ysgol Gynradd Felinfach, Ysgol Ciliau Parc ac Ysgol Gymunedol Cilcennin. Llywydd y noson oedd Mrs Angela Rogers Davies, Maesmynach, Cribyn. Ar ddiwedd y Gymanfa roedd C.Ff.I. Felinfach wedi paratoi lluniaeth yn y Festri.