Cynhaliwyd Rali C.Ff.I. Ceredigion yn Felinfach eleni, ac yng nghanol holl fwrlwm cystadlu’r diwrnod roedd yna ddigwyddiad cyffrous arall, sef lawnsiad swyddogol Prosiect Ceredigidol C.Ff.I. Ceredigion.
Pwrpas y prosiect yw hybu ochr ddigidol y mudiad trwy greu gwefan newydd a chynhyrchu cyfres o ffilmiau hyfforddiant ar agweddau gwahanol y mudiad. Yn ogystal â hyn mae cyfle i’r aelodau gwella ei sgiliau technegol hwy wrth wirfoddoli yn y prosiect, sy’n sicrhau fod y ffilmiau yn cael ei greu gan aelodau, ar gyfer yr aelodau.
Fe lansiwyd gwefan newydd C.Ff.I. Ceredigion yn swyddogol yn Rali Felinfach, ac yn fan hyn cewch yr holl wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â digwyddiadau a newyddion y mudiad. Yn ogystal â hyn, dyma lle ddewch chi o hyd i’r ffilmiau hyfforddiant mae’r prosiect yn ei gynhyrchu.
Cefnogwyd prosiect Ceredigidol gan Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi a chyllidwyd drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae’r cymorth gan Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi galluogi’r mudiad i greu gwefan newydd a chynhyrchu ffilmiau hyfforddiant. Y ddau yn fodern a deniadol, sydd yn adlewyrchu’r mudiad ieuenctid yma. Hoffai’r mudiad ddiolch i Cynnal y Cardi am eu cymorth ac i gwmni Gwe Cambrian, Aberystwyth, am eu gwaith caled a’u parodrwydd i gyd-weithio wrth baratoi’r wefan newydd.
Ar faes Rali Ceredigion yn Felinfach lansiwyd Gwefan Newydd C.Ff.I Ceredigion.
O’r chwith – Iwan Davies, Ceredigidol; Cyng. Gareth Lloyd, Cyngor Sir Ceredigion; Meleri Richards, Cydlynydd Cymunedau Gwledig – Cynnal y Cardi; Mererid Jones, Cadeirydd C.Ff.I Ceredigion a Keith Henson, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi.
Llun: Tim Jones