Cynhaliwyd Diwrnod Maes C.Ff.I. Ceredigion ar Fferm Trawscoed, Abermagwr ar ddydd Sadwrn, 28ain o Fedi. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y dydd, wrth i 16 o glybiau’r Sir gymryd rhan gyda dros 200 o aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau. Bu clybiau yn cystadlu yn y cystadlaethau Sialens ATV, Arddangosfa Ciwb, Arwerthu, Ffensio Iau a Hŷn, Fferm Ffactor, Addurno Torch Nadolig, Creu Calendr Adfent, Torri Cyw Iâr, Trimio Oen, Her Palet, Ar y Newyddion a Gyrru Tractor gan sicrhau digon o amrywiaeth yn ystod y dydd.
Dyma restr o’r canlyniadau:-
Stocmon y Flwyddyn – Cwpan Her Cefnmaes: 1af – Dyfrig Williams, Llangwyryfon; 2il – Gwenllian Evans, Llanddewi Brefi; 3ydd – Sioned Evans, Llanddewi Brefi; 4ydd – Ifan Morgan, Penparc.
Tîm dan 26 – Cwpan Her teulu Moelifor: 1af – Llangwyryfon; 2il – Penparc; 3ydd –Caerwedros.
Beirniad Stoc y Flwyddyn 18 oed ac iau – Cwpan Trevor Davies a’r teulu: 1af – Elin Davies, Llanwenog; 2il – Elin Rattray, Trisant; 3ydd – Dylan Morris, Llangwyryfon; 4ydd – Angharad Evans, Llanddewi Brefi.
Tîm dan 18 – Cwpan Her Pantyrhendy: 1af – Llanwenog; 2il – Llangwyryfon; 3ydd – Llangeitho.
Beirniad Stoc y Flwyddyn 14 oed ac iau: – Cwpan Her Rob a Sheila Rattray: 1af – Hanna Evans, Troedyraur; 2il – Jane Davies, Llangwyryfon; 3ydd – Glain Jones, Lledrod; 4ydd – Steffan George, Lledrod.
Tîm 14 oed ac iau – Cwpan Her Fron: 1af – Llangwyryfon; 2il – Pontsian; 3ydd – Lledrod.
Arddangosfa Ciwb: 1af – Lledrod; 2il – Felinfach; 3ydd – Tregaron.
Sialens ATV – Cwpan Mid Ceredigion ATB Group: 1af – Wiliam a John, Lledrod; 2il – Iwan ac Elin, Felinfach; 3ydd – Osian a Owain, Llanwenog.
Gyrru Tractor a Loader – Tarian Coffa John Bowman: 1af – Richard Downes, Llangeitho; 2il – Glyn Hughes, Mydroilyn; 3ydd – Richard Jenkins, Talybont.
Arwerthu: 1af – Cennydd Jones, Pontsian; 2il – Iestyn Thomas, Trisant.
Addurno Torch Nadolig: 1af – Meryl Evans, Llanwenog; 2il – Cari Davies, Tregaron; 3ydd – Cerys Burton, Trisant.
Fferm Ffactor – Cwpan Her IBERS: 1af – Megan a Teleri, Llanddewi Brefi; 2il – Gethin a Cerys, Mydroilyn; cydradd 3ydd – Dewi a Cai, Felinfach a Lisa a Rebecca, Pontsian.
Ffensio Iau: 1af – Lledrod; 2il – Llangwyryfon; 3ydd – Trisant.
Ffensio Hŷn – Cwpan Cilerwisg, Felinfach: 1af – Trisant; 2il – Llangwyryfon; 3ydd – Llangeitho.
Creu Calendr Adfent: 1af – Teleri Evans, Pontsian; 2il – Ella Evans, Felinfach; 3ydd – Mirain Griffiths, Llangwyryfon.
Torri Cyw Iâr: 1af – Lowri Jones, Lledrod; 2il – Lois Jones, Llanwenog; 3ydd – Fflur Davies, Penparc.
Trimio Oen – Cwpan Her Meinir a Sioned Green, Nantgwyn: 1af – Rhys Williams, Llanwenog; 2il – Laura Evans, Llangwyryfon; 3ydd – Teifion Morgan, Penparc.
Ar y Newyddion: 1af – Llangwyryfon; 2il – Pontsian; 3ydd – Llanwenog.
Her Palet: 1af – Felinfach.
Ar ddiwedd y cystadlu, cipiwyd cwpan her Pantlleinau i’r clwb buddugol, am y chweched tro yn olynol, gan clwb Llangwyryfon ac yn derbyn tlws coffa Gethin Jones, Deinol am ddod yn gydradd ail-fuddugol oedd Llanwenog a Lledrod.
Dymuna C.Ff.I. Ceredigion ddiolch i bawb a fu ynghlwm â Diwrnod Maes y Sir, drwy feirniadu, menthyg offer a stoc, cyfrif y marciau ac yn stiwardio gydol y dydd. Diolch yn arbennig i Fferm Trawscoed am ganiatáu i ni gynnal y Diwrnod Maes ac i Gegin Cwm Gwaun am ddarparu bwyd ar y diwrnod. Gwerthfawrogwn gymorth pawb yn fawr iawn. Bydd enillwyr y cystadlaethau yma yn cynrychioli Ceredigion yn awr yn y Ffair Aeaf ar 25/26 o Dachwedd ac yn Niwrnod Maes Cymru a fydd yn cymryd lle ar Ebrill 18fed yng Nghlwyd.