Diweddariad Covid-19: 18 Mawrth 2020

DIWEDDARIAD CORONAFIRWS

18 Mawrth 2020

Ni fydd y Pwyllgor Gwaith yn cael ei gynnal heno! (18/03)

Yn dilyn y newidiadau ynglŷn â’r coronafeirws (Covid-19), mae NFYFC a CFfI Cymru wedi diweddaru ei canllawiau i aelodau sy’n rhoi arweiniad ar gyfer sefyllfa’r Sir yn ogystal â’r Clybiau.
Cyngor y Llywodraeth yw dod â chyswllt nad yw’n hanfodol i ben ac atal pob teithio di-angen. Gan ddilyn y cyngor hwn; Dylai holl gyfarfodydd a gweithgareddau’r clybiau gael eu canslo am y 12 wythnos nesaf. O ganlyniad i hyn, ni fydd unrhyw weithgaredd a chystadleuaeth Sir yn cael eu cynnal dros y 12 wythnos nesaf.

Golyga hyn ohirio y digwyddiadau canlynol:
18/03/2020 – Pwyllgor Gwaith
20/03/2020 – Dawns Dewis Swyddogion
23/03/2020 – Cwis Iau y Sir
29/03/2020 – Ymarfer Cyngerdd Eisteddfod Genedlaethol
08/04/2020 – Hyfforddiant Stoc – Barnu Gwartheg Jersey
09/04/2020 – Cinio Cadeirydd
12/04/2020 – Sul Hwylus y Pasg
14/04/2020 – Pwyllgor Rheoli a Chyllid y Sir
15/04/2020 – Pwyllgorau’r Sir
18/04/2020 – Diwrnod Maes C.Ff.I. Cymru
22/04/2020 – Hyfforddiant Stoc – Barnu Moch Cymreig
29/04/2020 – Hyfforddiant Stoc – Barnu Defaid Texel
09/05/2020 – Chwaraeon y Sir
20/05/2020 – Pwyllgorau’r Sir
06/06/2020 – Rali’r Sir

Ar hyn o bryd, bydd Swyddfa CFfI Ceredigion yn aros ar agor hyd nes y clywir yn wahanol. Os oes gan unrhyw aelodau, rhieni neu wirfoddolwyr unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni yn y swyddfa.

Rydym yn annog pob clwb i helpu allan yn y gymuned leol trwy cynnig help llaw gyda siopa, casglu meddyginiaeth neu unrhyw fater arall.

01570 471444 / ceredigion@yfc-wales.org.uk

Hoffem sicrhau aelodau, swyddogion, gwirfoddolwyr a chefnogwyr y mudiad ein bod yma i chi ac y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau ymhellach.

Cadwch yn ddiogel!