Cyflwyno siec i R.A.B.I

Ar nos Sul y 19eg o Fawrth, cynhaliwyd Gymanfa’r Frenhines yng Nghapel Mydroilyn. Cafwyd gymanfa hwylus wrth i swyddogion a ffrindiau’r sir arwain emyn yr un a bu’n lwyddiant gan godi swm anrhydeddus o £1000 tuag at yr elusen R.A.B.I.

Braf oedd gweld Swyddogion y Sir yn cyflwyno siec o £1,000 i R.A.B.I yn ddiweddar. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ar y noson!

Yn y llun gyda Bethan, Dewi a’r Dirprwyon mae Frances (Cadeirydd R.A.B.I Ceredigion) Euros (Is-gadeirydd) a Rhian (Ysgrifenyddes)!