Gwelwyd tyrfa dda o aelodau a chefnogwyr brwdfrydig yn Rali Flynyddol C.Ff.I. Ceredigion ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fehefin. Enillwyr llynedd, Tregaron, oedd yn cynnal y Rali ac yn darparu’r anifeiliaid ar gyfer y cystadlaethau barnu, yr holl stiwardiaid oedd angen, ynghyd â darparu’r gefnogaeth ariannol a noddwyr ar gyfer y diwrnod prysur hwn. Rhaid diolch hefyd i Glwb Trotian Tregaron am ddarparu offer ar gyfer y diwrnod.
Cynhaliwyd y Rali ar fferm odidog Dolyrychain drwy garedigrwydd teulu Davies a chynhaliwyd y ddawns ar fferm Caebwd drwy garedigrwydd Mr a Mrs Alun Jones. Mae’r ffederasiwn yn hynod o ddiolchgar iddynt am eu croeso cynnes. Hefyd diolch i Lywydd y Dydd, Mr Tom Rees, Awel-y-grug, Tregaron am ei bresenoldeb, ei haelioni a’i gymorth i’r Rali. Diolch i Brif Noddwr y Rali sef D A G Jones & Sons a hefyd i Noddwyr y Cystadlaethau sef W.D. Lewis a’i Fab; Clwb Rygbi Tregaron; Mole Valley Farmers; Tai Ceredigion, Bysiau Evans Coaches; Wynnstay; Pencefn Feeds a Cneifio Bont Shears. Diolch i Mart Tregaron am fodloni i gynnal y gystadleuaeth Barnu Gwartheg Limousin yno. Diolch i Barclays am noddi’r sir drwy gynllun £ am £.
Yn y Rali, a gafodd ei drefnu gan y Trefnydd y Sir, Anne Jones a’r Swyddog Gweinyddol a Marchnata, Tomos Lewis, gwelwyd aelodau o bob cwr o’r sir yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, sydd heb os, yn ffenest siop i’r 18 o glybiau a wnaeth gystadlu.
Trwy gydol y dydd, roedd yna gystadlaethau yn dangos nifer helaeth o sgiliau – coginio, crefft, gosod blodau, coedwigaeth, cneifio, dawnsio, Arddangosfa’r Prif Gylch ayyb, ac wedi denu tua 400 o aelodau’r sir gyda Felinfach yn ennill y Rali a chlybiau Llanddewi Brefi yn 2il a Llangwyryfon yn 3ydd.
Chwaraeon oedd thema’r Rali eleni ac fe fydd yr enillwyr i gyd yn cynrychioli Ceredigion yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf.
Uchafbwynt y dydd oedd seremoni y coroni. Cafodd Esyllt Ellis-Jones o glwb Llangwyryfon ei choroni yn Brenhines C.Ff.I. Ceredigion am y flwyddyn. A phenodwyd Morys Ioan, Caerwedros yn Ffermwr Ifanc y flwyddyn. Am y tro cyntaf yn hanes C.Ff.I. Ceredigion gwelwyd dirprwyon benywaidd a gwrywaidd yn camu i’r llwyfan sef Elin Haf Jones, Llanwenog; Aled Davies, Caerwedros; Angela Evans, Tregaron a Steffan Rhys Nutting, Talybont.
Dyma restr o’r enillwyr:
Arddangosfa Ffederasiwn – Trisant;
Barnu Gwartheg Limousin –16 oed neu iau – Bedwyr Siencyn, Talybont; 21 oed neu iau – Sioned Evans, Llanddewi Brefi; 26 oed neu iau – Dyfrig Williams, Llangwyryfon; Unigolyn Uchaf – Dyfrig Williams, Llangwyryfon; Tîm buddugol – Llanddewi Brefi;
Dylunio Cit Chwaraeon – Felinfach;
Coginio – Sioned Owen a Delyth Williams, Lledrod; Gosod Blodau – Elliw Dafydd, Bro’r Dderi; Crefft – Sioned Morris, Llangwyryfon; Cystadleuaeth yr Aelodau – Llangwyryfon;
Dawnsio – Felinfach;
Sylwebaeth Fyw – Iwan Davies a Gareth Jones, Llanddewi Brefi;
Dyma Dy Fywyd – Llangwyryfon;
Coedwigaeth – Penparc;
Barnu Defaid Suffolk – 16 oed neu iau – Bedwyr Siencyn, Talybont; 21 oed neu iau – Gwenno Evans, Talybont; 26 oed neu iau – Dewi Jenkins, Talybont; Unigolyn Uchaf – Bedwyr Siencyn, Talybont; Tîm – Talybont;
Trin Gwlân – Angharad Davies, Trisant ac Eleri Lloyd-Jones, Pontsian;
Gêm y Cenedlaethau – Llanddewi Brefi;
Gwisgo i Fyny – Llanwenog;
Canu – Talybont;
Cneifio Defaid 21 oed neu iau – Steffan Jenkins, Llanwenog; 26 oed neu iau – Dewi Jenkins, Talybont; Tîm – Talybont.
Barnu Cobiau Cymreig Adran D – 16 oed neu iau – Ela McConochie, Felinfach; 21 oed neu iau – Eiry Williams, Llangwyryfon; 26 oed neu iau – Ceris James, Mydroilyn; Unigolyn Uchaf – Ela McConochie, Felinfach; Tîm – Felinfach;
Brwydr ‘Lyp Sync’ – Llanwenog;
Arddangosfa’r Prif Gylch – Llanddewi Brefi;
Tablo – Lledrod a Felinfach;
Tynnu’r Gelyn – Merched – Llanddewi Brefi;
Tynnu’r Gelyn – Bechgyn – Llanwenog;
Tynnu’r Gelyn – Iau – Llanwenog;
Gwneud Arwydd – Llanddewi Brefi;
Barnu Stoc – Unigolyn Uchaf 16 oed neu iau – Bedwyr Siencyn, Talybont; Unigolyn Uchaf 21 oed neu iau – Eiry Williams, Llangwyryfon; Unigolyn Uchaf 26 oed neu iau – Dyfrig Williams, Talybont; Unigolyn Uchaf yn y Barnu Gwartheg – Dyfrig Williams, Llangwyryfon; Unigolyn Gorau am y rhesymau yng Nghymraeg – Bedwyr Siencyn, Talybont; Clwb Gorau yn y Barnu Stoc – Llangeitho;
Ffermwyr Gorau’r Flwyddyn – Esyllt Ellis-Jones, Llangwyryfon a Morys Ioan, Caerwedros.
Anrheg Goffa W.G.Hughes & W.D. Lewis – Bethan Roberts, Mydroilyn a Dewi Jenkins, Talybont.
Ysgrifennydd Clwb Gorau – Helen Lewis, Llangwyryfon;
Aelod a dreuliodd yr amser hiraf ar daith ryngwladol – Elin Haf Jones, Llanwenog;
Aelod mwyaf gweithgar y flwyddyn – Caryl Vaughan, Llanddeiniol a Meira Lloyd, Llangeitho;
Aelod iau mwyaf gweithgar y flwyddyn – Alaw Mair Jones, Felinfach;
Clwb gorau yng nghystadlaethau’r Sir 2016/17 – Buddugwyr – Llanwenog; ail fuddugol – Mydroilyn;
Y clwb “bychan” gorau yng nghystadlaethau’r Sir 2016/17 – Llanddeiniol;
Talwyd y diolchiadau gan Mererid Jones, Is-gadeirydd y Sir a chyhoeddwyd y canlyniadau terfynol gan Mererid Davies, Cadeirydd y Sir.
Canlyniadau Terfynol y Rali:
1. Felinfach; 2. Llanddewi Brefi; 3. Llangwyryfon; 4. Lledrod; 5. Pontsian; 6. Trisant; 7. Llanwenog; 8. Talybont; 9. Penparc; 10. Mydroilyn.
Cafodd y penwythnos prysur yma ei gloi gyda Chymanfa Ganu lwyddiannus yng Nghapel Bwlchgwynt, Tregaron ar y Nos Sul, gyda Catherine Hughes a Manon Rhys Jones yn arwain a Alice Jones a Manon Jones yn cyfeilio. Artistiaid y noson oedd aelodau Clwb Tregaron, Ysgol Henry Richard Tregaron ac Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid. Yn anffodus, nid oedd Llywydd y noson Mrs Anné Lloyd, Fflur, Tregaron yn medru bod yn bresennol oherwydd anhwylder ond darllenwyd llytyr gan ei nith Catherine ar ei rhan. Dymuniadau gorau iddi am lwyr wellhad! Ar ddiwedd y Gymanfa roedd C.Ff.I. Tregaron wedi paratoi lluniaeth yn y Neuadd Goffa.