C.Ff.I. Ceredigion yn codi £9530 drwy seiclo’r 75 – Cwrs y Cardis.

Ar ddydd Sadwrn, yr 8fed o Ebrill, bu dros 130 o aelodau a ffrindiau C.Ff.I Ceredigion yn seiclo 75 milltir o amgylch y sir. Mae C.Ff.I. Ceredigion yn dathlu 75 mynedd eleni ac felly penderfynwyd gosod her a chodi arian tuag at Beiciau Gwaed Cymru a C.Ff.I. Ceredigion.

Rhannwyd yr her mewn i dri grŵp – Roedd grŵp 1 yn dechrau’r daith o Aberteifi, grŵp 2 o Dregaron a grŵp 3 o Dalybont. Fe ddaeth sawl wyneb cyfarwydd i’n helpu i gwblhau’r her gan gynnwys; Geraint Lloyd, Deiniol Wyn Jones, John Davies a Dai Jones, Llanilar.

Gwelwyd yr aelodau yn beicio o bob cwr o’r sir a derbyniwyd llawer o gefnogaeth ar hyd y daith. Gorffenwyd y daith gyda orymdaith o amgylch tref Aberaeron cyn dychwelyd i Glwb Rygbi Aberaeron i ddathlu diwedd y daith. Cynhaliwyd noson rasys defaid a barbeciw gyda’r nos a chafwyd noson llawn hwyl yn cymdeithasu a dawnsio i gerddoriaeth y bechgyn ifanc o glwb Bro’r Dderi, Sounds Good Productions.

Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo er mwyn sicrhau digwyddiad llwyddiannus a diogel; Staff, swyddogion, stiwardiaid, rhieni, ffrindiau’r mudiad ac i’r aelodau a wnaeth seiclo a chodi swm sylweddol tuag at achosion da.

Diolch hefyd i’r holl noddwyr: Cyclemart; Euros Davies; Dai Green; Rhydian Evans; Aeron Bacon Supplies; Cigyddion Rob Rattray; Owain’s Butchers; Arwerthwyr Morgan & Davies; Popty Aberaeron; Tesco; Bara Gwalia; Swyddfa Bost Felinfach; Cegin Glowon; Arwyddion a Dylunio Boomerang; Gwesty Llanina; Brybecue; Shearwell Data; Meadow Foods; Milfeddygon Tysul; Dŵr Llanllŷr; Tai Aeron; Plymwaith AMD; Mole Valley Farmers; Gwres yr Arth a Teulu Hawkins, Ciliau Aeron.

Cyflwynwyd siec o £4765 yn Rali’r Sir ar y 3ydd o Fehefin i Beiciau Gwaed Cymru. Bydd yr arian yma yn helpu’r elusen a’u gwirfoddolwyr i barhau i ddarparu gwasanaeth negesydd beic modur “yn ystod oriau gwaith” a gwasanaeth y “tu allan i oriau gwaith” i bob bwrdd iechyd yng Nghymru.