C.Ff.I. Ceredigion ar y brig yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru 2017

Bu aelodau C.Ff.I. Ceredigion yn disgleirio gydol yr wythnos ac yn mwynhau yn y Sioe Frenhinol. Ar ôl wythnos o gystadlu brwd rhwng y Ffederasiynau daeth llwyddiant ysgubol i Sir Geredigion wrth gipio cwpan NFU ar ddiwedd yr wythnos. Dyma’r canlyniadau:

Arddangosfa Ffederasiwn – 1af: Trisant

Sylwebaeth Fyw –1af: Iwan Davies a Gareth Jones, Llanddewi Brefi

Canu – 1af: Unigol – Beca Williams, Talybont – cydradd 7fed; Grŵp – Talybont – 1af

Cneifio – 3ydd:  Steffan Jenkins, Llanwenog 2il 21 oed neu iau a Dewi Jenkins, Talybont 4ydd 26 oed neu iau

Trin Gwlân – 4ydd: Angharad Davies, Trisant

Seremoni Agoriadol – 3ydd: Llanddewi Brefi

Barnu Defaid Suffolk – 2il: Bedwyr Siencyn 1af 16 oed neu iau; Teifion Morgan, Penparc 8fed 18 oed neu iau; Gwenno Evans, Talybont 6ed 21 oed neu iau a Dewi Jenkins 2il 26 oed neu iau

Gwisgo i Fyny – 5ed:Lois Jones a Hafwen Davies, Llanwenog

Dawnsio – 8fed: Felinfach

Dyma Dy Fywyd – 2il; Llangwyryfon

Cystadleuaeth yr Aelodau – 7fed :(Crefft, Coginio a Blodau)

Blodau – 6ed:Elliw Dafydd, Bro’r Dderi

Coginio – cydradd 7fed: Sioned Owen a Delyth Williams, Lledrod

Crefft – 7fed: Sioned Morris, Llangwyryfon

Barnu Cobiau Cymreig Adran D – 1af : Ela McConochie, Felinfach 3ydd 16 oed neu iau; Ffion Williams, Llanddewi Brefi 1af 18 oed neu iau; Eiry Williams, Llangwyryfon 1af 21 oed neu iau a Liz Harries, Pontsian 1af 26 oed neu iau.

Brwydr ‘Lip Sync’ – 1af: Llanwenog

Dylunio Cit Chwaraeon – cydradd 4ydd: David Heath, Gwern Thomas a Bleddyn Thomas, Felinfach

Rygbi – 3ydd

Tynnu’r Gelyn – 8fed: Bechgyn Llanwenog 8fed; Merched Llanddewi Brefi 3ydd a Thîm Iau Llanwenog 10fed

Coedwigaeth – 1af: Marc James ac Osian Rees, Penparc

Barnu Gwartheg Limousin – 1af: Bedwyr Siencyn, Talybont 1af 16 oed ac iau; Angharad Evans, Llanddewi Brefi 2il 18 oed ac iau; Sioned Evans, Llanddewi Brefi 3ydd 21 oed neu iau a Dyfrig Williams, Llangwyryfon cydradd 4ydd 26 oed neu iau

Gêm y Cenedlaethau – cydradd 3ydd: Angharad Jones a Rebeca James, Llanddewi Brefi

Dyfarnwyd bod Ceredigion yn ennill tlws coffa R.L.Jones am y mwyaf o farciau yn yr Adran Beirniadu Stoc dros y tair cystadleuaeth.

O ganlyniad i’r holl lwyddiannau hyn sicrhawyd bod Ceredigion yn gyntaf gyda 136 o bwyntiau gan ennill cwpan NFU gyda Sir Benfro a Maesyfed yn gydradd ail (123 o bwyntiau) a Sir Brycheiniog yn bedwerydd (119 o bwyntiau). Canlyniad gwych! Llongyfarchiadau mawr i’r holl aelodau.