Ben Lake AS yn canmol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru

Ben Lake AS yn canmol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru

Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-dydd yn y Senedd yn cymeradwyo Clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru am ymateb mor bositif i bandemig y Covid-19.

 

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Ceredigion a Chymru wedi bod yn cefnogi eu cymunedau gwledig lleol yn ystod y Covid-19.  O ddosbarthu nwyddau hanfodol a chasglu presgripsiynau i gerdded cŵn a chadw llygad ar y rhai mwyaf bregus, mae aelodau’r C.Ff.I. wedi camu i’r adwy.


Dywedodd Ben Lake AS cyflwynydd y cynnig:

“Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r Cynnig Cynnar-yn-y-dydd hwn yn y Senedd sy’n cydnabod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan aelodau C.Ff.I. yn nghymunedau cefn gwlad yn ystod yr argyfwng hwn.

“Mae’r C.Ff.I. yn fudiad sydd wrth wraidd cymodgaethau cefn gwlad, a dros y degawdau mae ei aelodau wedi chwarae rhan annatod yn cefnogi a chyfrannu at fywyd ein cymunedau gwledig.

“Gwn y bydd y weithred hon o garedigrwydd a’r gefnogaeth a ddarperir gan aelodau C.Ff.I. ledled y wlad yn dod â chysur i lawer o unigolion bregus ar adeg eithriadol o heriol ac rwy’n hynod ddiolchgar i Glybiau Ffermwyr Ifanc ledled Ceredigion a Chymru am ymateb mor gadarnhaol i’r argyfwng presennol.”

 

Mae Lauren Jones, aelod o C.Ff.I. Llanwenog, wedi bod yn gwirfoddoli yn ei chymuned leol fel rhan o’r fenter hon. Dywedodd:

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Ben Lake am gydnabod gwaith caled mudiad y ffermwyr ifanc yn ystod yr amser ansicr hwn. Mae Ben Lake yn gefnogol iawn i’r mudiad bob amser ac rwy’n falch ei fod yn cefnogi ein haelioni yn y gymuned unwaith eto.

“Rydym yn ffodus iawn o’r gefnogaeth a gawn fel mudiad gan ein cymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn, felly mae’r cyfnod hwn o argyfwng yn rhoi cyfle i ni ddangos ein diolchgarwch. Mae’n bleser i ni fel aelodau gynnig help llaw ac mae’r gwerthfawrogiad a dderbyniwn yn arwydd bod einhaelodau yn cynnig gwasanaeth hanfodol i’r gymuned.”

 

Llun: Mared Rees o G.Ff.I. Penparc yn gwirfoddoli trwy siopa bwyd