3ydd i Geredigion yn Eisteddfod C.Ff.I. Cymru yn Wrecsam

3ydd i Geredigion yn Eisteddfod C.Ff.I. Cymru yn Wrecsam

Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ar Dachwedd y 30ain yn Neuadd William Aston, Wrecsam. Ar ddiwedd y noson, cyhoeddwyd bod Ceredigion wedi dod yn drydydd, Eryri yn ail a Clwyd yn cipio’r wobr gyntaf a tharian Mansel Charles i’r ffederasiwn buddugol yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod. Derbyniodd Ceredigion Cwpan Undeb Amaethwyr Cymru Dinbych am ennill yr adran Gwaith Cartref. Cipiodd Nest Jenkins o glwb Lledrod y wobr am y Llefarydd Gorau a’r wobr am yr Aelod Mwyaf Addawol.
Dyma ganlyniadau clybiau Ceredigion:-

Cystadlaethau Llwyfan:
Unawd Offerynnol – 1af Nest Jenkins, Lledrod
Monolog – 3ydd Alaw Mair Jones, Felinfach
Parti Llefaru – 1af Lledrod
Unawd 26 oed neu iau – 3ydd Heledd Besent, Mydroilyn
Meimio i Gerddoriaeth – 3ydd Llanwenog
Llefaru 26 oed neu iau – Nest Jenkins, Lledrod
Canu Emyn – 3ydd Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
Sgets – 1af Pontsian
Parti Deusain – 3ydd Llanwenog

Gwaith Cartref:
Cerdd (Cadair) – 1af Twm Ebbsworth, Llanwenog
Rhyddiaith (Goron) – 2il Twm Ebbsworth, Llanwenog
Celf – 1af Ella Evans, Felinfach
Cyst. Aelodau 21 oed neu iau – 2il Daniel Evans, Bro’r Dderi
Cyst. Aelodau 26 oed neu iau – 1af Megan Lewis, Trisant
Limrig – 3ydd Endaf Griffiths, Pontsian.
Llongyfarchiadau mawr i’r holl aelodau a gymerodd ran yn yr Eisteddfod – Da iawn chi.