Mae’r Fforwm yn cynrychioli barn yr aelodau sy’n 18 oed neu iau ac yn sicrhau bod llais y bobl ifanc yn cael ei glywed ar bob lefel. Mae’r Fforwm hefyd yn ymgyrchu ar nifer o faterion sy’n effeithio pobl ifanc ynghyd â threfnu digwyddiadau a gweithgareddau. Mae’n gyfle gwych i aelodau ifanc o bob clwb cwrdd i gymdeithasu a chael hwyl. Y digwyddiad mwyaf poblogaidd mae’r Fforwm yn trefnu ar hyn o bryd yw’r cystadleuaeth ‘It’s a Knockout’ sy’n cael ei drefnu yn flynyddol erbyn hyn. Maent hefyd yn gwerthu Pop a Chreision mewn nifer o weithgareddau er mwyn codi arian i fynd ar dripiau!