Cynhaliwyd Diwrnod Maes C.Ff.I. Ceredigion ym Marchnad Tregaron ar ddydd Sadwrn, 10fed o Hydref. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y dydd, wrth i 17 o glybiau’r Sir gymryd rhan gyda dros 200 o aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau. Braf oedd gweld nifer o aelodau newydd yn ymgeisio a’r y gystadleuaeth stoc. Bu cynnydd yn nifer y clybiau a gystadleuodd yn y cystadlaethau, Sialens ATV, Addurno Cacen, Trimio Oen, Ffensio Iau a Hŷn, Fferm Ffactor Iau, Ocsiwn Ffug, Ceiliog Gwynt, Gwneud Torch Nadolig a Gyrru Tractor gan sicrhau digon o amrywiaeth yn ystod y dydd.
Dyma restr o’r canlyniadau:-
Stocmon y Flwyddyn – Cwpan Her Cefnmaes: 1af – Elizabeth Harries, Pontsian; 2il – Elen Thomas, Pontsian; 3ydd – Delyth Jones, Tregaron, 4ydd – Minnie Hartnell, Troedyraur.
Tîm dan 26 – Cwpan Her teulu Moelifor: 1af – Pontsian; 2il – Llangwyryfon; 3ydd – Llanwenog.
Beirniad Stoc y Flwyddyn – Cwpan Trevor Davies a’r teulu: 1af – Eiry Williams, Llangwyryfon; 2il – Dewi Davies, Llanddeiniol; 3ydd – Mirain Richards, Llanddewi Brefi; 4ydd – Alaw Rees, Mydroilyn.
Tîm dan 18 – Cwpan Her Pantyrhendy: 1af – Llangwyryfon; 2il – Llangeitho; 3ydd – Mydroilyn.
Beirniad Stoc y Flwyddyn – 14 oed ac iau:- 1af – Elin Rattray, Trisant; 2il – Bedwyr Siencyn, Talybont; 3ydd – Elin Davies, Llanwenog; 4ydd – Beca Jenkins, Pontsian.
Tîm 14 oed ac iau: 1af – Llanddeiniol; 2il – Tregaron; 3ydd Felinfach.
Addurno Cacen: 1af – Cerys Evans, Mydroilyn; 2il – Angharad Jones, Llanddewi Brefi; 3ydd – Cari Davies, Tregaron.
Sialens ATV – Cwpan Mid Ceredigion ATB Group: 1af – Rhodri Morris a Cennydd Jones, Pontsian; cydradd 2il – Carwyn Jones a Glyn Hughes, Mydroilyn a Rhodri Organ a Rhydian James, Troedyraur.
Ceiliog y Gwynt: 1af – Deiniol Organ, Troedyraur; 2il – Carwyn Davies, Llanwenog.
Gyrru Tractor a Loader: Tarian Coffa John Bowman: 1af – Sion Evans, Talybont; 2il – Dyfan Ellis Jones, Llangwyryfon; 3ydd – Rhodri Davies, Pontsian.
Trimio Oen: Cwpan Her Meinir a Sioned Green, Nantgwyn: 1af – Sian Downes, Llangeitho; 2il – Trystan Davies, Talybont; 3ydd – Menna Williams, Llanwenog.
Addurno Torch Nadolig: 1af – Elin Calan Jones, Llangwyryfon; 2il – Meirian Morgan, Llangeitho; 3ydd – Minnie Hartnell, Troedyraur.
Fferm Ffactor Iau: 1af – Huw Jones a Owain Thomas, Felinfach; 2il – Dewi Davies a Dylan Morris; 3ydd – Laura Evans a Dafydd Guto Davies, Llangwyryfon.
Ocsiwn Ffug: 1af – Caryl Haf Jones a Beca James, Llanddewi Brefi: 2il – Bleddyn Jones a Dyfan Evans, Troedyraur; 3ydd – Arwyn Jones a Dafydd John Davies, Llangwyryfon.
Ffensio Iau: 1af – Llangwyryfon; 2il – Lledrod; 3ydd – Llanwenog.
Ffensio Hŷn – Cwpan Cilerwisg, Felinfach: 1af – Llangwyryfon; 2il – Llanddeiniol; 3ydd – Tregaron.
Ar ddiwedd y cystadlu, ac yn ennill cwpan her Pantlleinau, roedd clwb Llangwyryfon ac yn derbyn tlws coffa Gethin Jones, Deinol am ddod yn ail-fuddugol oedd Llangeitho.
Dymuna C.Ff.I. Ceredigion ddiolch i bawb a fu ynghlwm â Diwrnod Maes y Sir, drwy feirniadu, menthyg offer a stoc, cyfrif y marciau ac yn stiwardio gydol y dydd. Diolch yn arbennig i gwmni D.A.G. Jones am ganiatáu i ni gynnal y Diwrnod Maes yn y Mart ac i Fferm Penlan, Tregaron am gael menthyg y cae ar gyfer y gystadleuaeth Ffensio. Diolch hefyd i noddwyr y dydd sef Lloyd’s Animal Feeds; Wynnstay a Dilwyn Williams a diolch iddynt am fod yn bresennol yn y digwyddiad. Gwerthfawrogwn gymorth pawb yn fawr iawn. Bydd enillwyr y cystadlaethau yma yn cynrychioli Ceredigion yn awr yn Niwrnod Maes Cymru a fydd yn cymryd lle ar Ebrill 23 yn Y Fenni.