Shwmai!? Croeso i chi i fy blog!
Er nad yw fy mywyd o ddydd i ddydd yn ecsiting iawn, nes i a’r criw (H.Y. Y Frenhines, Morwynion, Ffarmwr ifanc, Cadeirydd ac is-gadeirydd) benderfynu bydden fe’n syniad da bod aelodau’r Sir yn dod i nabod y swyddogion yn well!
Felly dyma beth odd mlan wythnos diwethaf!
Dydd Llun 16eg o Fawrth
I’r rhai ohonoch sydd wedi mentro neu wedi gorfod trafeili i Aberystwyth yn ystod yr ‘rush hour’ chi’n gwybod faint o ben tost yw hi!
Er bod gwastraffu amser rhyfedda mewn ciw yn boenus! I ddweud y gwir fi’n joio mynd lan i’r swyddfa, stafell llond merched sydd yn siarad Cymraeg, joio chwerthin, clebran ac yfed lot o de! Ond wir i chi ni dal yn dod i ben a neud lot o waith pwysig!
Fy swydd o ddydd i ddydd yw gweithio i Gyswllt Ffermio fel hwylusydd trosglwyddo gwybodaeth yng Ngheredigion a Gogledd Sir Benfro. Mae’r prosiect yn cynnig cyngor, arweiniad, hyfforddiant a digwyddiadau i fusnesau ffermio a choedwigaeth yng Nghymru. Sdim dal beth fydd mhlan da fi, a dyma un o resymau pam rwy’n mwynhau’r swydd! Fyddai’n gweithio yn agos gyda ffermwyr i drefnu digwyddiadau ar ffermydd yn trafod pob math o bynciau, yn ogystal a chyfarfodydd gyda’r hwyr a chydlynu treialon ar ein Ffermydd Arddangos..
Rhan fwyaf o’r amser meddwl am syniadau diddorol, pwysig a perthnasol i allu cynnal cyfarfod er mwyn cal y wybodaeth ddiweddara i ffermwyr fyddai’n neud. Ond hefyd sortio gwaith papur, ysgrifennu adroddiadau, drafftio invites i ddigwyddiadau ayb…! Ond yn ddiweddar sortio amserlen i fynd i samplo pridd yw’r dasg bwysicaf! Gyda thua cant o ffermydd o Geredigion a Gogledd Sir Benfro ishe gwybodaeth ar ansawdd eu pridd, allai weud taw dyma’r diet gore sydd- wedi cerdded tua 350 o gaeau to date!
Nos lun yw noswaith clwb Llanwenog, off I Castell Howell am splash a bwyd! Pan oeddwn i’n ifanc, dyma oedd ‘treat ‘! Nofio, whare sboncen a llond bola o fwyd blasus amser gwyliau haf yr ysgol. Llawer o atgofion melys!
Dydd Mawrth 17 o Fawrth
Diwrnod o samplo pridd yn ardal gyfarwydd heddiw- Cwmsychbant (Neu Cwmsychupants)! Falle fod rhai ohonoch yn meddwl ‘pam ddiawl bod ishe samplo pridd?’
Wel dyma ‘run through’ yn gloi-
Mae cyflwr pridd ar ffermydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae glaswellt a chnydau porthiant yn tyfu, ac ansawdd y bwyd maent yn ei gynhyrchu. Felly wrth samplo’r pridd allwn ddarganfod pH, a lefelau o P, K a Mg sydd yn y pridd. Allwn ddefnyddio’r wybodaeth yma i weithio allan os bod eisiau calch, a faint a pa fath o wrtaith sydd eisiau. Os allwn sicrhau’r lefelau delfrydol fydd porfa a chnydau yn tyfu yn llawer mwy effeithiol…..Simples!
Heno oedd cyfarfod swyddogion yn nhafarn y Vale, Felinfach, lle fuon ni’n sicrhau bod y ’to-do list’ nathon ni ddrafftio ar ddechrau ei’n cyfnod fel swyddogion wedi eu cwblhau! Ond cynyddu nath yr ‘to-do list!
Os chi byth yn styc am rywle i gal bwyd ffein….Iasu ma gwd chicken cyri yn y Vale, a odd Gammon Geraint yn edrych yn lovely fyd…..and to top it off CHIPS CÂRTRE!!
Dydd Mercher 18 o Fawrth
Sypreis sypreis….samplo pridd odd mlan da fi heddi to! Ond lawr yn Sir Benfro heddi! Odd rhaid raso lawr i ffarm gynta gan fod contractwyr ar y ffordd i bwmpo slyri!! Diwrnod bendigedig i samplo odd hi hefyd gyda’r haul yn sheino!!
Lan i Lanymddyfri oedd hi heno i gyfarfod cyntaf aelodau Rali Ewropeaidd!! A weden i bod fi mewn am lot o sbort wrth baratoi a mynychu’r wythnos yn Awstria!
I’r rhai ohonoch sydd ddim yn ymwybodol o’r Rali Ewropeaidd, Caiff y Rali ei threfnu yn flynyddol gan y pwyllgor Ewropeaidd dros fudiadau ffermwyr ifanc sef ‘Rural Youth Europe’. Yn ystod y digwyddiad bydd nifer o wahanol dimoedd o bob cwr o Ewrop yn cyfarfod i gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu cynllunio i leihau’r bwlch rhwng gwahanol ddiwylliannau a chefndiroedd.
Eleni’r thema yw “Work hand in hand – create your land” felly fydd wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn seiliedig ar y thema yma.
Y camau nesa fydd ceisio cal noddwyr a chynnyrch Cymraeg i arddangos i’r timoedd o ar draws Ewrop!
Digon i neud!
Dydd Iau 19 o Fawrth
Allwch chi feddwl beth odd mlan heddi?……. Ie, diwrnod llawn arall o whare da pridd! Er bod tipyn o waith i gasglu’r samples- ma rhaid fi weud bod hi’n dasg sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i fi er mwyn dod i nabod cefndir y busnesau mae Cyswllt Ffermio yn anelu’r gwasanaeth tuag ato. Wrth gerdded o un cae i’r llall yn siarad a thrafod, rwy’n dysgu llawer am yr ardal, gwahanol systemau ffarmo a beth yw gofynion y ffermwyr. Bydd hwn yn werthfawr iawn wrth feddwl am gynnwys cyfarfodydd y dyfodol!
Nath rhywbeth anghyffredin ddigwydd heno!! Rhywbeth sydd ddim yn digwydd yn amal iawn, bron a bod mor anghyffredin ar Solar Eclipse!….odd ddim byd mhlan da fi!! Noswaith o ymlacio a joio yn neud dim byd!
Dydd Gwener 20 o Fawrth
To be continued……..