Pontsian

Eisiau gwneud ffrindiau newydd?

Cael hwyl wrth wneud gwahanol weithgareddau fel ‘kung-fu’ a ‘dodgeball’?

Cael y cyfle i ganu, actio neu dawnsio a chymryd rhan mewn amryw o gystadlaethau fel chwaraeon, siarad cyhoeddus a’r rali?

Wel os wyt ti, dere i ymuno gyda ni yn nghlwb ffermwyr ifanc Pontsian, rydyn ni’n cwrdd bob Nos Lun am 8.00yh, yn neuadd D.H.Evans Pontsian ac mae croeso cynnes i bawb ymuno gyda ni.

Dyma ein rhaglen am y flwyddyn – lawrlwythwch fel PDF.